Tuesday 29 May 2007

Adeiladu Heb Fwriad #2

Fel cafodd ei grybwyll dipyn yn ôl gyda'r postiad, "Adeiladu Heb Fwriad" mae un o brif bapurau newydd tiroedd Prydain wedi ysgrifennu erthygl, sy'n tynnu sylw at nifer o bwyntiau a chafodd ei godi, fel:


  • Nifer yn ormod o fflatiau

  • Datblygiadau di-werth ar gyrion ac yng nghanol trefi

Mae'r erthygl i'w weld ar wefan The Telegraph.

Erthygl yn y Telegraph



Mae'n mynd ati i drafod nifer o bwyntiau a chafodd ei godi yn sylwadau ar "Adeiladu Heb Fwriad" sef fod dim digon o dai cyffredin ar gyfer teuluoedd. Dwi wedi pigo ar llond llaw o ddyfyniadau sydd a ganlyn.



...developers being encouraged to build apartments at the expense of family homes...



Sydd yn dangos nad yw adrannau cynllunio cynghorau lleol yn gweithredu yn ôl angen, ond yn ôl gobeithion economaidd sydd ar bapur, sef y CDU (neu Unitary Development Plan) sydd yn cymyd yn ganiatol fod poblogaethau yn cynyddu. Yn amlwg, ame pobol sydd gyda gradd mewn Cynllunio heb yr un galluon a Daearyddwyr Dynol a wneith dweud wrthych fod cynyddiad mewn glendid, iechyd, addysg a safon byw, fel sydd yn y byd gorllewinol, yn arwain at leihad mewn poblogaeth. Mae'n bosib gweld y patrwm yma'n digwydd yn llefydd fel Kerala yn India ble mae safon iechyd ac addysg wedi arwain at leihad mewn twf poblogaeth. Nid yw datblygiadau na'r system economaidd cyfalafol yn perpetual felly mae terfan yn rhywle, ac yn ôl pob gweledigaeth India a Tsheina sydd â'r bêl yn eu llys ar hyn o bryd.



...When politicians try to rig the market they eventually corrupt the market.



Nid yw gwleidyddion sydd a'u gweledigaeth gyda cystal addysg ag economwyr sydd yn gwario'u addysg, a'u bywydau dyddiol yn dadansoddi'r farchnadau a phatrymau dynol. Gwell yw peidio gadael i gwleidydd benderfyny be sydd orau i'w ardal, ond yn hytrach gwrando ar y bobol mae'n ei gynrychioli. Nawn nhw siŵr o glywed angen am fwy o dai...



...in Manchester alone there were 20,000 flats awaiting planning permission against "just a handful" of new houses...



Nid yw'r broblem yma yn bodoli yn nhrefi a chefn gwlad Cymru, ond yn ninasion mawrion Lloegr - Manceinion yn enghraifft perffaith



There is clear demand for more family housing...



Oes, a sydd wedi bod yn amlwg ers blynyddoedd. Un peth dwi'n cofio fy nhad yn dweud yw'r adeg pan oedd yn byw ac yn gweithio ym Manceinion; cafodd nifer o dai teras eu chwalu er mwyn gwneud lle ar gyfer ffyrdd. Ond eto fedrwch chi edrych ar llefydd fel Oldham sydd efo nifer o strydoedd teras gwag. Un o'r posibiliadau gyda llefydd fel yma, yw chwalu un neu ddau rhes, er mwyn creu mwy o awyrgylch cymdeithas gyda siopau, parciau a nifer fach iawn o swyddfeydd ar gyfer y pobol lleol, yn lle disgwyl i bawb mynychu i ganol dinas i weithio.



The situation has got worse because of the rise of buy-to-let landlords looking to invest in small properties.



Be am i'r llywodraeth roi'r gorau i blesio'r llond llaw o ffigyrau sy'n gyrru'r economi a rhoi cyfwng a'r bwerau perchnogion tir ac adeiladau, gan wedyn adael i'r economi yrru ei hun, yn tyfu ac yn lleihau, yn cyflymu ac yn arafu yn ôl gofynion yr union bobl sydd yn ei greu. Mae'n digon hawdd i landlord brynnu oddeutu 20 fflat mewn bloc sy'n cynnwys 50. Buasai cyfwng o tua 1 fflat i bob enw gwneud pethau'n anos, a fod rhaid i'r person yna fod yn byw yn y tŷ/fflat am o leiaf 6 mis neu fel arall gallu cyfiawnhau absenoldeb hir.



It's not for me or for the Government to prescribe whether people should live in flats or houses, but the rules as they stand work against houses.



Yn hollol, felly dylir adeiladu yn ôl gofynion lleol. Byddai trefn felly yn golygu bod llefydd fel Tesco heb cymaint o ddylanwad, a diwedd ar y llefydd out-of-town.



Builders say the only solution is to allow them to access to more land.

Either we push up densities even more or we push up the amount of land made available.



Be am beidio cynyddu'r nifer o blotiau o dir sydd ar gael a chynyddu hen safleoedd brown field sydd yn ddigonol mewn nifer o hen drefi a dinasoedd diwydiannol. Bydd cost o lanhau nifer o'r safleodd yma, ond bydd yn golygu y gallu i adeiladu nifer o dai i deuluoedd yng nghanol dinasoedd, heb sbwylio gwregysau glas.



Yr un sydd mwy rhad ac yn symlach na hyn yw cyfyngu ar y nifer o dai gall pobol fod yn berchen arno, gan gynnwys cyfyngu ar gallu pobol i fod yn berchen ar dai dim ond er mwyn eu rhentu. Tai sy'n dod i'r meddwl yn syth yw rhai haf, a bythynod egwyl.



Un peth yr ydwyf wedi sylwi arni yw'r nifer o dai yn ardaloedd Y Waun Ddyfal a'r Rhath yng Nghaerdydd sydd yn llawn myfyrwyr. Buasai fod ddim yn bosib hybu defnydd o neuaddau preswyl i'r mwyafrif o myfyrwyr, gan bod eu dwysedd nhw cymaint uwch. O edrych o gwmpas Y Waun Ddyfal a'r Rhath, mae'n amlwg fod y gymdeithas frodorol wedi cael ei ddifetha a wedi diflannu.

Monday 21 May 2007

Byw ar Ddyled

Fel sy'n dod yn fwy ac yn fwy amlwg y dyddiau yma, yw fod pobol allan bron iawn pob dydd yn gwario'u pres. Nid fod dim o'i le gyda hynny, ond mae nifer fawr yn gwario pres nad oes ganddynt.

Gyda tai yn codi i brisiau tu allan i afaelion nifer fawr o bobol, a'r llywodraeth yn gwthio agwedd cymdeithasol o wario a gwario, er mwyn atal arafiad yn yr economi, mae nifer yn troi at fenthyg pres. Gan fod pobol yn barod i neidio'r clwyd o fenthyg pres, mae 'cerdiau ffyddlondeb' yn ffynnu gyda graddau llog uchel. Cai nifer o bobol eu ffeindio'n sownd mewn twll o ddyled, gyda dim ond digon o bres i dalu llog ar y benthyciadau.

Be ddigwyddodd i gynilo eich pres? Cynilo swm mawr o bres at freuddwyd, ac o ganlyniad yr holl waith yn ei wneud, yn ei werthfawrogi mwy. Pan mae'n rhaid i rywun weithio'n galed at gael rhywbeth mae'n beth i drysori. Mae'r dewis o fenthyg pres yn hamdwyo'r gallu yma, ac yn rhoi'r peth ar blat. Os glywch chi storiau o adeg y rhyfel neu adegau eraill mewn hanes ble'r oedd y rhanfwyaf o bobol mewn dyled, yr oedd cymdeithas gwell o rannu a chyfeillgarwch yn bodoli.

Amser i gwtogi ar pwy yn union sydd ar hawl i fenthyg pres a'r llog i godi?

Monday 14 May 2007

Gwyliau 365

Ar hyn o bryd mae'n edrych fel petai Cymru yn ceisio troi yn un lleoliad wyliau i bobol. Fflatiau a thai moethus sydd yn anymarferol ac allan o afaelion pobol lleol; mwy o marinas - dwi ddim yn adnabod neb efo llong o gwbwl; mwy o ganolfannau crefftau mewn ryw hen adfail.

Trobwynt mewn trefi glan y môr oedd penderfyniad cynllunio i newid hen adeilad westy ar bromenâd Bae Colwyn yn floc o fflatiau. Penderfynodd hyn bod y lle wedi cyrraedd ei hanterth a bydd y lle yn datblygu i gael ystyr gwahanol. Bellach mae mwy o fflatiau sydd wedi eu preswylio gyda dosbarth cymdeithasol newydd. Ryw fath o dan-dosbarth o bobol tlawd gyda problemau cymdeithasol. Problemau sy'n sgil datblygiadau dinas mewnol trefi mawrion Lloegr.

Fel arfer mae'r cyngor sir rywsut yn gwrthod gwneud dim, neu yn medru gwneud dim. 12 milltir i lawr yr arfordir yn Y Rhyl, mae'r hen ffair wedi gorffen a bellach yn gwneud ei ffordd i Towyn, ond ar y safle yma mae ASDA yn ogystal a chaffi, siopau a fflatiau moethus am cael eu datblygu. Dwnim os na dall yw cyngor Sir Ddinbych, ond edrychwch ar y ffaeliadau mae Pentre'r Plant a Traeth y Ffrith wedi bod, yn ogystal â'r problemau sydd wedi rhoi enw i'r Rhyl yn ddiweddar gyda fflatiau yn denu pobol o'r tu allan. Fel mae'r cyngor wedi nodi, fflatiau moethus bydd rhain, gyda neb yn gwadu na i bobol o'r tu allan ydynt.

Nid Ibiza, Benidorm na St. Tropez arall yw Cymru felly mae angen i ni adeiladu tanadeiledd ar gyfer y trefi a phentrefi lleol, yn ogsytal ag i'r bobol. Un enghraifft amlwg nad yw hyn yn bod, yw'r diffyg ffordd uniongyrchol o'r gogledd i'r de yng Nghymru.

Saturday 12 May 2007

Yn gaeth i alcohol?

Yn rhan annatod o ddiwylliant y DU mae'r dafarn yn chwarae rhan fawr ym mywydau'r mwyafrif, yn enwedig myfyrwyr. Yng nghanol pob tref neu dinas mae clwstwr o fariau, tafarndai a chlybiau nos yn agored ar y penwythnosau a sawl diwrnod arall o'r wythnos. I'r rhai ohonoch sydd wedi prynu llymaid yn ddiweddar, cewch weld nad yw prisiau yn resymol o bell ffordd. Yn ystod y 10 mlynedd olaf, mae'r llywodraeth Lafur wedi cynyddu trethi ar alcohol - digon teg trethu nwyddau o bleser, ac o ystyried y problemau a'r gost yn sgil canlyniadau negyddol y cyffur.

Yr ochor arall ddrwg yw'r ffaith fod cymaint o fangreoedd gyda trwydded i werthu alcohol, mewn ardal cyfyngedig iawn. Yn Nottingham er enghraifft mae oddeutu 250 o fangreoedd trwyddedig mewn 1 milltir sgwâr - y riset perffaith am drafferthion.

A yw'r llywodraeth, a'r lefel cenedlaethol a sirol yn or-ddibynnu ar alcohol, a'r faint o arian sy'n cael ei wario? Mewn nifer o lefydd rŵan, cwbwl yw canol yw bwytai a fariau. Dim byd mwy na hynny. Wrth gwrs bod angen cynnig cyfleusterau i bodloni gofynion y cyhoedd, ond ffolineb ydyw i wasgu cymaint mewn un lle penodol. Beth am roi cyfyng ar y nifer o fangreodd trwyddedig mewn un uned ardal?

Canlyniadau drwg o gael cymaint mewn un fan yw ysbwriel, plismona, llygru, ymddygiad gwrth-gymdeithasol a threisiol ac eraill. Yw'r gost o redeg llywodraeth gyda'r fath yma o bres o ystyried yr effaith ar y cyhoedd tawel ac enciliol yn gyfiawn?

Wednesday 9 May 2007

Adeiladu Heb Fwriad

Edrychwch ar ganol neu gyffiniau unrhyw tref heddiw, a mi wnewch chi weld ail-adroddiad o'r un hen siopau ac adeiladau pre-fab. Yr union siopau sy'n lladd canolfannau trefi yn ogystal a chreu thagfeydd traffig. Am ryw reswm gwirion, mae nifer o adrannau cynllunio cynghorau sir yn gefnogol o'r fath yma o ddatblygiad. Mae gan pob cyngor sir Cynllun Datblygu Unedol (UDP i'r rhan fwyaf ar lafar - Unitary Development Plan) gyda'r disgwyl o ddatblygu mannau yn y sir ar gyfer tai, siopau ac ardaloedd cyhoeddus. Yn ogystal a hyn, mae'r niferoedd o blant sy'n mynychu ysgolion yn lleihau yn flynyddol. Bwriad sylfaenol y cynghorau yw i gynyddu economi yr ardal, ond ar ba gost?

Yn syml yr ydym yn gweld adeiladau diysbryd, yn cael eu hadeiladu yn y gobaith fod busnes neu teulu am symud i fewn. I lawr ym Mae Caerdydd mae dwsinau o fflatiau moethus yn wag ers blynyddoedd bellach, a'r cyngor yn parhau i roi ganiatâd i fwy cael eu hadeiladu. Yr un peth yn wir i fyny yn Sir Conwy ble mae Parc Wyddoniaeth ger Abergele gyda dim ond un busnes yn preswylio, a'r busnes yna wedi symud o Fae Colwyn.

Rhaid i'r awdurdodau lleol ddeall, os yw rhywun am gychwyn busnes, mi wnawn nhw hynny ar liwt eu hunain. Tydi taflu pres a chyfleusterau at bobol yn achosi dim - edrychwch ar Elwa.

Yn yr oes a fu - dim ond 100 mlynedd yn ôl yn wyneb datblygiadau diwydiant, mae gan ardal Caerdydd a'r cymoedd pensaernïaeth unigryw, ardal Abertawe, Aberystwyth a gorllewin Cymru, a'r gogledd, yn eu tai teras ac adeiladau eraill. Syth i ffwrdd, mae'n bosib adnabod ardal trwy luniau o'r adeiladau.

Yn syml mae'r awdurdodau lleol yn lladd canolfannau trefi ac yn lladd enaid, cymeriad a'r hyn sydd yn unigryw mewn llefydd, ac mae hyn effeithio ar y pobol lleol. Cwbwl sydd rhaid ei wneud yw meddwl am ddatblygiad Manceinion yn y 50/60au o'r concrid i gyd, a gofyn i unigolion sut ddelwedd ydych chi'n cael o'r lle? Lle llwm, llwyd, di-liw, digalon a gwlyb.

Rhaid rhoi diwedd ar y datblygiadau diri dibwrpas yma sy'n gost enfawr yn amgylcheddol ar faestrefi a gwregysau glas (green belt) ac ar ysbryd lle a'i thrigolion.

Cadarnleoedd Cyfforddus

Fel y gwelom, er cymaint yr ymgyrchu gan y pleidiau eraill yn y cymoedd yn ne Cymru, yn ystod yr etholiad, mawr yw'r newid o Lafur. Hon yw cadarnle Llafur yng Nghymru. Bosib dweud mai hon yw'r un o'r llefydd sy'n ofn newid, ac yn ceisio byw yn y gorffennol. Ar y llaw arall, mae'r un fath o batrwm yn ceisio adlewyrchu ei hun hyd a lled Cymru. Yng Ngheredigion bellach mae'r Rhyddfrydwyr yn achosi pryderon i Plaid Cymru wedi'r buddugoliaeth yn Etholiad Cyffredinol 2005. Yr hen fflam yn ceisio ail-gynau - yr adeg cyn sefydliad Plaid Cymru.

Mae'n edrych yn syrffedus dros ben; pawb yn gwybod beth i'w ddisgwyl gyda un neu ddau o seti agos. Ar y llaw arall, yn fwy yn y cymoedd na unrhyw le arall, yw fod y nifer sy'n ceisio dysgu'r Gymraeg yn ffynnu. Be sy'n ysgogi pobl aelwydydd Saesneg i yrru eu plant i ysgolion Cymraeg? Ydi o i gyd lawr at y 'cenedlaetholdeb Cymreig newydd' mae Llafur wedi bod yn ei wthio. Cymraeg a pethau Cymreig yn digon da i'w gael ond ddim llawer o ots ar fywyd pob dydd?

Sut mae torri'r patrymau newydd yma? Trwy celwyddau, mudiadau radicalaidd neu rhywbeth arall?

Tuesday 8 May 2007

Croeso

Bwriad y blog yma yn rhoi sylwadaeth a dadansoddiad ar y ddiwylliant Gymreig sy'n or-ddibynnol ar ddiwylliannau ein cymydog cryfach a'r UDA.

Cafodd hyn ei hysgogi gan y dyfyniad bach yma gan Henry Jones-Davies sy'n olygydd ar y cylchgrawn Cambria:

"The rank corruption of the dependency culture which pervades Welsh life with its bread-and-circuses, its intolerable economic inactivity, its almost total dearth of new ideas, leadership, or dynamism, its stale and talentless cabal of post-devolution politicians, its stagnant and sterile political culture, its visceral loathing of anything proud and patriotic, would bode ill for any society. It bodes worse for a struggling, economically depressed ‘province’ which is told it is doing ‘so very well’ by the present administration."

O edrych hyd at 200 o flynyddoedd yn ôl a gweld y diwydiant a'r gwaith a oedd yn bodoli, mae Cymru wirioneddol wedi methu ar gyfle i fod yn un o wledydd llewyrchus y byd, nid yn economegol ond yn gymdeithasol.

Mae'n bryd i ni geisio adfer y bosibiliad yma.