Fel cafodd ei grybwyll dipyn yn ôl gyda'r postiad, "Adeiladu Heb Fwriad" mae un o brif bapurau newydd tiroedd Prydain wedi ysgrifennu erthygl, sy'n tynnu sylw at nifer o bwyntiau a chafodd ei godi, fel:
- Nifer yn ormod o fflatiau
- Datblygiadau di-werth ar gyrion ac yng nghanol trefi
Mae'n mynd ati i drafod nifer o bwyntiau a chafodd ei godi yn sylwadau ar "Adeiladu Heb Fwriad" sef fod dim digon o dai cyffredin ar gyfer teuluoedd. Dwi wedi pigo ar llond llaw o ddyfyniadau sydd a ganlyn.
...developers being encouraged to build apartments at the expense of family homes...
Sydd yn dangos nad yw adrannau cynllunio cynghorau lleol yn gweithredu yn ôl angen, ond yn ôl gobeithion economaidd sydd ar bapur, sef y CDU (neu Unitary Development Plan) sydd yn cymyd yn ganiatol fod poblogaethau yn cynyddu. Yn amlwg, ame pobol sydd gyda gradd mewn Cynllunio heb yr un galluon a Daearyddwyr Dynol a wneith dweud wrthych fod cynyddiad mewn glendid, iechyd, addysg a safon byw, fel sydd yn y byd gorllewinol, yn arwain at leihad mewn poblogaeth. Mae'n bosib gweld y patrwm yma'n digwydd yn llefydd fel Kerala yn India ble mae safon iechyd ac addysg wedi arwain at leihad mewn twf poblogaeth. Nid yw datblygiadau na'r system economaidd cyfalafol yn perpetual felly mae terfan yn rhywle, ac yn ôl pob gweledigaeth India a Tsheina sydd â'r bêl yn eu llys ar hyn o bryd.
...When politicians try to rig the market they eventually corrupt the market.
Nid yw gwleidyddion sydd a'u gweledigaeth gyda cystal addysg ag economwyr sydd yn gwario'u addysg, a'u bywydau dyddiol yn dadansoddi'r farchnadau a phatrymau dynol. Gwell yw peidio gadael i gwleidydd benderfyny be sydd orau i'w ardal, ond yn hytrach gwrando ar y bobol mae'n ei gynrychioli. Nawn nhw siŵr o glywed angen am fwy o dai...
...in Manchester alone there were 20,000 flats awaiting planning permission against "just a handful" of new houses...
Nid yw'r broblem yma yn bodoli yn nhrefi a chefn gwlad Cymru, ond yn ninasion mawrion Lloegr - Manceinion yn enghraifft perffaith
There is clear demand for more family housing...
Oes, a sydd wedi bod yn amlwg ers blynyddoedd. Un peth dwi'n cofio fy nhad yn dweud yw'r adeg pan oedd yn byw ac yn gweithio ym Manceinion; cafodd nifer o dai teras eu chwalu er mwyn gwneud lle ar gyfer ffyrdd. Ond eto fedrwch chi edrych ar llefydd fel Oldham sydd efo nifer o strydoedd teras gwag. Un o'r posibiliadau gyda llefydd fel yma, yw chwalu un neu ddau rhes, er mwyn creu mwy o awyrgylch cymdeithas gyda siopau, parciau a nifer fach iawn o swyddfeydd ar gyfer y pobol lleol, yn lle disgwyl i bawb mynychu i ganol dinas i weithio.
The situation has got worse because of the rise of buy-to-let landlords looking to invest in small properties.
Be am i'r llywodraeth roi'r gorau i blesio'r llond llaw o ffigyrau sy'n gyrru'r economi a rhoi cyfwng a'r bwerau perchnogion tir ac adeiladau, gan wedyn adael i'r economi yrru ei hun, yn tyfu ac yn lleihau, yn cyflymu ac yn arafu yn ôl gofynion yr union bobl sydd yn ei greu. Mae'n digon hawdd i landlord brynnu oddeutu 20 fflat mewn bloc sy'n cynnwys 50. Buasai cyfwng o tua 1 fflat i bob enw gwneud pethau'n anos, a fod rhaid i'r person yna fod yn byw yn y tŷ/fflat am o leiaf 6 mis neu fel arall gallu cyfiawnhau absenoldeb hir.
It's not for me or for the Government to prescribe whether people should live in flats or houses, but the rules as they stand work against houses.
Yn hollol, felly dylir adeiladu yn ôl gofynion lleol. Byddai trefn felly yn golygu bod llefydd fel Tesco heb cymaint o ddylanwad, a diwedd ar y llefydd out-of-town.
Builders say the only solution is to allow them to access to more land.
Either we push up densities even more or we push up the amount of land made available.
Be am beidio cynyddu'r nifer o blotiau o dir sydd ar gael a chynyddu hen safleoedd brown field sydd yn ddigonol mewn nifer o hen drefi a dinasoedd diwydiannol. Bydd cost o lanhau nifer o'r safleodd yma, ond bydd yn golygu y gallu i adeiladu nifer o dai i deuluoedd yng nghanol dinasoedd, heb sbwylio gwregysau glas.
Yr un sydd mwy rhad ac yn symlach na hyn yw cyfyngu ar y nifer o dai gall pobol fod yn berchen arno, gan gynnwys cyfyngu ar gallu pobol i fod yn berchen ar dai dim ond er mwyn eu rhentu. Tai sy'n dod i'r meddwl yn syth yw rhai haf, a bythynod egwyl.
Un peth yr ydwyf wedi sylwi arni yw'r nifer o dai yn ardaloedd Y Waun Ddyfal a'r Rhath yng Nghaerdydd sydd yn llawn myfyrwyr. Buasai fod ddim yn bosib hybu defnydd o neuaddau preswyl i'r mwyafrif o myfyrwyr, gan bod eu dwysedd nhw cymaint uwch. O edrych o gwmpas Y Waun Ddyfal a'r Rhath, mae'n amlwg fod y gymdeithas frodorol wedi cael ei ddifetha a wedi diflannu.
2 comments:
Hoffais ddarllen dy sylwadau'n fawr iawn ond onid yw'r frawddeg - "Nid yw'r broblem yma yn bodoli yn nhrefi a chefn gwlad Cymru, ond yn ninasion mawrion Lloegr - Manceinion yn enghraifft perffaith" - braidd yn orgyffredinoli. Mae 'na engraifft wych ar gyrion tre' Caernarfon o fflatiau drudfawr yn y broses o gael eu hadeiladu tra fod prinder dybryd yn lleol o dai fforddadwy ar gyfer bobl ifanc.
Tydi hynny ddim yn gwneud llawer o synwyr i mi chwaith! Bosib iawn be yr oeddwn yn ceisio ei ddweud yw fod y broblem o brinder tai a fflatiau moethus mewn llefydd ble nad oes angen, ddim yn bodoli yng Nghymru yn unig. Fel y dywedoch mae Caernarfon gyda ychydig o fflatiau drud yn cael eu codi; bydd bron iawn neb lleol yn gallu eu fforddio, dim ots eisiau eu prynnu. Mi wneith ddenu pobl o'r tu allan, gan gynyddu'r straen ar y farchnad dai lleol. Yr un peth yn wir ym Manceinion a llefydd eraill. Er fod gan pobol y pres i allu fforddio y fath llefydd, nid oes gofyn amdanynt, ac ymdrech fydd hi i ddenu pobol iddynt.
Post a Comment