Saturday, 3 May 2008

Pedair mlynedd o gwsg

"Bodlonrwydd yw marwolaeth chwant."


Ryw gyfieithiad bras o'r dywediad Saesneg, sydd yn nodi fod y rhai sy'n cyflawni eu goliau fyr-dymor yn peri iddynt laesu eu dwylo a throi'n ddiog. Dyma beth a welwyd gyda cholled enfawr Llafur yn yr etholiadau diweddar. Nid cymaint fod hi wedi bod yn pleidlais o blaid y Ceidwadwyr, ond dial yn erbyn Llafur am gymryd eu pleidlais yn ganiataol. Rhaid nodi fod pob plaid arall wedi gwneud yn ddau gyda'r Ceidwadwyr ar y brig.



Yr un peth gyda Phlaid Cymru; maen't wedi cymryd eu pleidlais yng Ngwynedd yn ganiataol, gan fwy neu lai chwerthin ar y gystadleuaeth gan eu bod yn disgwyl monopoli ar etholwyr Gwynedd. Diddorol fydd gweld beth a ddaw o Lais Gwynedd, ond rhaid i Blaid Cymru gofyn, mae sefydlu plaid arall i sefyll yn ei herbyn?



I'r unigolion a fethodd ar Fai 1af, cofiwch:



"Mae cam yn ôl yn osodiad i ymosod."

"A setback is a set-up for a comeback."

Monday, 3 March 2008

TAW Annoeth

Mae hen berthynas i chi newydd adael hen adeilad yn ei ewyllys. Yr ydych chi efo pres ac amser mewn crynswth. Be ydych chi'n ei wneud?

a) datblygu/adnewyddu'r adeilad i'w chyflwr hardd gwreiddiol
b) ei ddymchwel ac adeiladu ty newydd

Yr ateb byse nifer yn ei ddewis yw adnewyddu'r adeilad i'w odidogrwydd blaenorol. Tipyn fel adnewyddu darn o ddodrefn/car. Ond na, mae hyn yn rhy ddrud.

Cynllun gwallgof y llywodraeth yw gosod TAW ar y nwyddau a'r llafur sydd ei hangen i adnewyddu hen adeilad. Nid oes angen talu TAW ar adeiladau newydd. Canlyniad hyn yw colli ein treftadaeth; colli cymeriad sydd yn creu lle, sydd yn ddangosydd o'r gyfnod a fu. Nid ryw ty mawr crand yn y wlad yn unig, ond tai teras, hen orsaf drenau - unrhyw adeilad.

Ar hyn o bryd, mae hi'n rhatach dymchwel adeilad ac adeiladu un newydd, o'r sylfaen i'r to, nag adnewyddu un hen. Beth yw'r bwriad? Diddymu'r hanes weledol? Creu ffrwd o hanes sy ddim ond yn bodoli mewn llyfr/yn ysgrifenedig?

Pryd ddaw tynged Castell Caernarfon? Swnio fel syniad gwallgof, ond yr un egwyddor sydd yn gyffredin.

Monday, 3 September 2007

Yr oedd Enoch yn iawn

Y dywediad enwog am y cyn aelod seneddol Enoch Powell yw "Enoch was right". Dywediad sy'n cael ei ddefnyddio ganamlaf gan unigolion sy'n ofni mewnfudwyr a chymdeithas o hil gymysg.

Gyda agweddau gwahanol, mae Enoch yn iawn. Yr oedd yn gwled yr UDA yn fygythiad i'r DU a'i hymerodaeth. Yr oedd yn frwd o blaid yr Ymerodaeth Prydeinig, ond pan cafodd India ei hannibyniaeth, trodd yn erbyn hyn. Os oedd India am fynd, yr oedd rhaid i popeth arall fynd ac i Brydain derbyn nad oedd yn un o bwerau mawrion y byd bellach.

Tra yr oedd yn yr Ail Ryfel Byd yn Algiers, cychwynodd casau yr UDA am ei bod yn fygythiad i'r Ymerodaeth Prydeinig. Tacteg yr UDA yw i gael pawb yn rhannu economi fel eu bod yn meddwl dwy waith cyn gwneud ryw weithred chwerw, tacteg gyda bwriadau digon teg a chyfiawn. Y clwyd? Prydain oedd yn rhedeg un o economiau mwyaf y byd, ac o ganlyniad gyda monopoli nad oedd yr UDA yn gallu cael mynediad.

Rhaid cofio fod sefydliadau Prydeinig, yn ogystal â'r llywodraeth ac unigolion wedi cael perthynas da iawn gyda pobol o'r dwyrain canol, gyda nifer ohonynt yn gwneud defnydd o sefydliadau addysg, rasio ceffylau a hefyd ymladd dros eu hachosion nhw. Rhai enwog yw Lord Byron a'r Gweriniaeth Helenaidd, a T.E. Lawrence (Lawrence Arabia) a frwydrodd dros greu gwladwriaeth Palastein yng ngwyneb yr Ymerodaeth Ottoman adeg y Rhyfel Byd Cyntaf.

Be mae nifer ddim yn sylweddoli yw fod nifer o bobol uchel yn y sefydliadau Israelaidd ar restr terfysgwyr Prydain, fel Areil Sharon, ond fod yr UDA yn eu hatal rhag gwneud rhywbeth. Yn wir, mae breuddwydion Prydain drwy cynorthwyo mwyafrif rhan o'r Dwyrain Canol mewn creu cenedl wedi cael eu hatal oherwydd yr UDA.

Bosib iawn buasai creu gwladwriaeth Palestein ar gyfer pawb wedi rhoi terfyn ar y trafferthion heddiw a roddodd ffrwyth gwlad Israel trwy rhyfela a brwydro.

Friday, 27 July 2007

Gwerthu Enaid Lloegr a'i Chyfeillion

Rhaid i mi gyfaddef fy mod yn dipyn o genedlaetholwr Cymreig adain dde, ond yn ogysal a hynny yn ddipyn o Einglffeil. Nid ei hwyneb hyll sy'n ymddangos adeg Cwpan y Byd, nac ar flaen y papurau newydd tabloid, ond yr oll sydd wedi dod o geisio adeiladu ymerodaeth gyda gwaith caled ac agwedd trahaus, sydd wedi rhoi pensaerniaeth arbenning, pobol cynnes a brawdgarol y gogledd, cewri llenyddol a sefydliadau megis Caergrawnt a'r Amgueddfa Prydeinig.

Yr ydwyf yn credu'n gryf iawn, fod dyfodol Cymru yn gorwedd yn nwylo y Saeson. Petawn ni'n cefnogi eu buddiannau a'u hymdrechion annibynol, bydd hyn yn cael ei wrthgyferbynnu, gan fod diddordebau Lloegr, yn bendant, yn wahanol i rai Cymru.

Oherwydd undod economaidd Yr Alban, Lloegr a Cymru, mae cwmnîoedd mawrion yn bodoli ac yn gweithredu yn ddi-ffin pob dydd. Syndod mawr oedd dysgu fod Canghellor newydd y DU, Alistair Darling, yn hapus i adael gwledydd megis Tsheina gael y cyfle i brynnu busnesau megis Barclays. Beth sydd yn syndod fwy, yw'r unig wlad i ganiatau y fath yma o wahoddiad, yw'r DU.

Yn ddiweddar mae Tsheina ac India wedi profi tŵf enfawr economaidd, sydd ddim i'w weld am arafu'n fuan. Tsheina yn ariannu cwmnioedd ei hun yn y farchnad ryngwladol gyda llafur rhad, ac India yn wlad llawn tlodi ond pobol efo sgiliau. Mae Tsheina wedi bod yn graff iawn ac un cam ar y blaen i'r UDA, drwy gwneud ffrindiau gyda pob math o wledydd gan cynnig llafur, deunyddiau a nwyddau y wlad. Cam doeth iawn.

Cam sydd ddim yn doeth yw gadael i lywodraeth Tsheina brynu pobol fel Barclays, pan eu bod yn berchen ar fanciau yn barod. Bydd hyn yn golygu gall Tsheina dewis gwneud penderfyniadau gwael, oherwydd mae dim ond yn gystadleuaeth i'w hun. Petai sefyllfa tebyg yn digwydd, gall Tsheina dod i reoli'r DU drwy ddulliau anuniongyrchol, drwy reoli'r economi, ac o ganlyniad bywydau pobol.

Edrych ar ôl ein hunain sydd ei hangen, fel mae Ffrainc a'r Swistir wedi bod yn neud ers degawdau, gyda chynnal France Telecom ac arbed Swiss Air i enwi ond rhai. Mae nhw efo cytundeb da gyda'r Undeb Ewropeaidd ynglŷn â ffermio. Ar yr un pryd, mae ffermwyr y wlad yma yn mynd yn ddiwaith trwy prisiau isel am lefrith ac yn y blaen.

Tuesday, 17 July 2007

Caernarfon Crand - Ddim i'r Cymry

Tua mis yn ôl yr oeddwn yng nghyffiniau Caernarfon, ac yn aros ym maes parcio Morrisons. Sylweddolais ar y strwythyr enfawr o fetel i lawr wrth y dŵr. Hwn yw datblygiad o fflatiau crand newydd, a drud wrth gwrs, sydd am fod yn rhan o dref Caernarfon.

Fel oedd i'w weld, rhagor o'r un hen adeiladau wedi eu hadeiladu gyda strwythyr metel, a'r waliau yn cael eu codi mewn darnau cyfan gyda craen.

Un sylw gan un o drigolion Caernarfon ar wefan y BBC yw:




co dre, caernarfon

Be sy' mynd ymlaen yn doc fictoria? arwyddion mawr yn y saesneg am werthu fflatiau moethus a phlaid cymru yn cefnogi'r holl beth, mae hi fel stori o alice in wonderland


Watkins Jones Homes sy'n gyfrifol am y datblygiad. Tan yn ddiweddar yr oedd arwydd mawr uniaith Saesneg yn nodi fod tai ar werth. Daeth y Gymraeg dim ond ar ôl i bobol cwyno.

Os ewch chi ar wefan Right Move, fe welwch nad oes unrhyw sôn am Caernarfon yn un o ardaloedd Cymraeg Cymru, a'r ffaith nad oes dim ar gael am lai na £325,000. Mae hyn o fewn gafael llawfeddyg go bosib, ond ddim i neb arall.

Be sydd hyd yn oed yn fwy dryslyd yw mai'r cyngor a roddodd y tir i ddatblygwyr am £1, er siwr fod dyledion neu costau eraill ynghlwm gyda'r cytundeb ond fod Cyngor Sir Gwynedd yn un Plaid Cymru, gyda 44 allan o 75 o'r seti yn perthyn i'r blaid. Oeddwn i'n meddwl fod agweddau Plaid Cymru yn un i edrych ar ôl y Gymraeg, nid i gymeryd camau at ddinistrio ei fro hanfodol. Petai'r Ceidwadwyr wedi gwthio'r cynllun er lles datblygiad economaidd, byddai'r rheswm yna'n ddealladwy a bosib yn fwy cyfiawn.

Ond eto, fel maw pawb yn ymwybodol ohono, tai mae pobol eu hangen, nid fflatiau. Mae Gordon Brown bellach yn ymwybodol iawn o'r hyn - gobeithio neith o weld gwendidau y CDU (Cynllun Datgblygu Unedol), fod economi a/neu chymuned yn gallu lleihau cymaint a fedrith ehangu. Hyn i'w weld yn y nifer o blant sydd bellach yn cychwyn yn yr ysgolion - niferoedd is na blynyddoedd blaenorol. Yw'r bwlch yn y niferoedd yn cael ei lenwi gan mewnfudwyr neu'r pobol sy'n anweithredol yn economaidd, a elwir yn bensiynwyr? Tydi hyn ddim yn beth rhy dda i'r CDU.

Ai er lles y bobol maent yn eu cynrychioli mae pobol mewn gwleidyddiaeth?

Monday, 18 June 2007

Coffor Aur GIG

Faint ydych chi'n ei hennill gyda'ch swydd?

Di-waith? Myfyriwr? Llai na £20,000, £40,000? Digon lwcus i ennill mwy na £100,000?

Yn fawr syndod i bawb, does bron dim o'r doctoriaid cyffredin yn ennill llai na £100,000. Petai doctor yn ennill £100,000 y flwyddyn, gan anwybyddu trethi ac yn gweithio 37.5 awr yr wythnos, mae'n cymyd £55 yr awr. Mae hyn yn fwy mewn gwirionedd gan fod y £100,000 y flwyddyn dal yn sefyll sydd yn cynnwys gwyliau.

Yr ydywf yn cofio mynd i weld doctor mis Ionawr diwethaf. Digwyddias edrych ar y wal, a gweld faint oedd y doctor penodol yma yn ei godi am waith yn ystod gwyliau'r Nadolig. Ar ddiwrnod San Steffan (Rhagfyr 26), byddai gofyn am y doctor yma wedi golygu talu iddo £600 yr awr. Diwrnodau eraill fel Rhagfyr 20fed, £200 i £400 yr awr.

Does dim dwywaith fod gwaith y doctor cyffredin yn un pwysig dros ben mae pawb yn cymyd yn ganiataol, ond maent dim ond yn gweithio o 9 tan 5 yn ystod yr wythnos. Os ydych angen gweld doctor y tu allan i'r oriau yma, am yr adran Damwain ac Argyfwng yr ysbyty agosaf bydd hi, hyd yn oed os chi'n byw yn y cefn gwlad ac yn methu gyrru. Problem.

Yn yr hen ddyddiau byddai doctor yn ymweld a'i gleifion a phobol o fewn y gymdeithas ar hap. Dywedodd fy nhad fod ei ewythr, a oedd yn ddoctor yn ardal Gorseinon, Abertawe, wedi cael ei alw allan yn ystod y nos am bythefnos syth un adeg; yr oedd hyn ar ben ei waith yn ystod y dydd. Yr oedd pethau fel yma yn ddisgwyliedig o'r swydd a'r tâl yr oedd y person yn ei dderbyn.

Os nad yw doctoriaid yn ddigon parod i wneud fel y diswgyl, neu bod yn ddigon wyneb galed i ofyn am fwy pan maent yn cael dros deg gwaith yn fwy na rhai pobol yn y wlad yma, yna mae'n bryd ail ystyried faint o dâl maent yn ei dderbyn. Yr ydym yn derbyn fod eu swydd yn un o safon uwch, ond yn fwy ac yn fwy heddiw, mae eu cyfrifoldebau ym maes iechyd yn digsyn wrth i ffisegwyr, cemegwyr, radiolegwyr, nyrsiau, biocemegwyr gwneud mwy a mwy o'r gwaith. Nid sôn o reidrwydd am staff ysbytai sydd yn gwneud mwy na'u siar, ond yn hytrach y rhai sy'n dewis gweithio yn y gymdeithas ond peidio gwasanaethu.

Thursday, 7 June 2007

Gwlychwch eich Traed!

Yn aml wrth gerdded o amgylch bron iawn pobman neu gyrru, mae'r ffyrdd mae nifer yn talu treth, sydd oeddeutu £130, yn wael ac yn anghyson. Mae'r llywodraeth yn ystyried gosod system o dalu am faint o'r ffordd yr ydych yn ei ddefnyddio - a fydd hyn yn golygu cael gwared ar y disg treth? Ond eto, er cymaint yr ydym yn ei dalu at goffa cynnal ffyrdd, nid ydym yn cael gwerth ein pres. Wel wrth gwrs ddim, mae'r llywodraeth cyfredol mewn sefyllfa o fenthyca ar gyfer talu am bethau gwirion megis rhyfeloedd, a grantiau at bethau diwerth; hyn oll er yr ydym yn talu y lefelau uchaf o drethi erioed.

Wrth weld y ffyrdd heddiw, prin iawn sy'n cael ei wario arnynt gan pob llywodraeth leol yng Nghymru. Nid safon yr arwyneb yn unig sydd o bwys, ond yr oll sydd o dan y ffordd hefyd, gan gynnwys y system o ddraeniau i gasglu dwr. Un enghraifft yn Nghaerdydd yw, fod nifer o strydoedd ble mae'r ffin rhwng y ffordd a'r palmentydd bron yn un. Yn ogsytal a hyn, os mae llif o law trwm, mae'r draeniau yn orlifo a'r dŵr yn casglu yn y ffordd. Gan nad oes ffin bellach, mae'r dŵr yn llifio ar y palmant. Yr unig ardal sych yw pwynt top y camber, ond mae ceir yn y fan honno. Beth yw'n wneud?

Oherwydd cynhesu byd eang, fedrwn ddisgwyl mwy o dymhestloedd. Nid rhai mellt a tharannau, ond glaw trwm mewn cyfwng byr o amser. Digon i ddal y systemau cyfredol mewn sioc.

Rhaid buddsoddi yn y tanadeiledd rŵan! Y llefydd sydd yn y mwyaf o beryg yw Llanrwst a Rhuthun. Mae Caerdydd yn digwydd bod mewn helynt fawr, gyda thiroedd gorlifio systemau hydrolegol, megis afonydd, yn ymestyn yn bell i ganol y ddinas.

Bosib byddai cyfres o danciau o dan y ddaear o fudd, i gasglu dwr glaw yn ystod tymhorau'r gaeaf, a'u defnyddio i ddyfrio blodau a chaeau yn yr haf?

Beth bynnag yw'r dewisiadau, mae angen i'r cynghorau sir newid eu cynlluniau gwario. Dim byd ar sothach fel parc busnes arall, ond mwy ar yr union bethau yr ydym yn dibynnu arnynt i allu hyd yn oed cerdded neu gyrru i'r siop leol am beint o lefrith.