Wednesday 1 April 2009

C4/W

Yn ddiweddar, er nid ydwyf yn siwr pryd, mae rhannau helaeth o wefan S4C yn cael ei gynnig yn y Saesneg yn ogystal â'r Gymraeg. Mae hyn hyn cynnwys y mwyafrif o'r microsites.

Ai'r prif alw dros sianel teledu Cymraeg, oedd fod digon o wasanaethau teledu Saesneg ar gael a dim digon o rhai Cymraeg? Dosraniad siaradwyr Cymraeg yw tua 20% yn ôl y cyfrifiad diwethaf, sydd yn cael ei adlewyrchu'n deg yn ôl y nifer o sianelau sydd ar gael.

Mae'n hawdd dweud felly fod adnoddau S4C yn cael ei ddefnyddio i greu cynnyrch Saesneg, pan fo egwyddor sylfaenol y sianel yw i greu cynnyrch i'r Gymraeg. Pa mor hir tan fydd y cynnyrch Cymraeg yn dechrau colli safon, drwy ildio amser ac adnoddau i greu cynnwys Saesneg (os nad yw'r safon wedi disgyn yn barod!)?

Ydi hyn yn dweud mwy am S4C, eu bod wedi colli bwriad bellach fel sianel a ddim yn gwybod beth i'w wneud, neu'n dweud mwy am gyrff fel y BBC a'u ffaeliadau'n creu cynnwys i'r Cymry di-Gymraeg?

Os oes cyfrwng Saesneg ar gael yn ogsytal â'r Gymraeg, beth yw'r ysgogiad i ddysgwyr ddod yn rhugl yn y Gymraeg? Ydi'r Gymraeg yn methu fel iaith i gyfathrebu gyda'i gynulleidfa, neu yw'r cynnwys ei hun yn ddiffygiol i gyfathrebu'n iawn?

Un esiampl o gael gwasanaeth uniaith Gymraeg ar raglen fel Sgorio er enghraifft: fy nghefnder sy'n digwydd wedi cael ei fagu a byw erioed yn Lloegr, yn uniaith Saesneg ar y cyfan, ac yn ddilynwr a chefnogwr brwd o bel-droed a Chymru, ond yn byw o fewn gafael S4C. Nid ydyw'n llawer o ots iddo nad ydio'n deall y cyfan sy'n cael ei ddweud, ond mae'n araf ddeall ac ehangu ei eirfa er y cyfyngiad. Os yw gwasanaeth S4C ar gael yn y Saesneg, byse fo ddim yn fwy fanteisiol iddo dewis y cyfrwng yma, a dysgu dim o'r Gymraeg, sy'n fwy ddealladwy iddo?

Channel 4 / Wales

Sunday 1 February 2009

Fel y'i daroganwyd...

Os ewch chi drwy rhai o gofnodion Corddi'r Dyfroedd mi wnewch chi weld sawl sylw ynghylch adeiladu tai ac isadeiledd i bobol, byw ar dyled, gwerthu cyfrannau o fusnesau mawr sy'n cynnig gwasanaethau cyhoeddus i wledydd eraill.

Nid economydd na arweinydd gwlad ydwyf, na'r mwyafrif ohonoch, ond wrth sylweddoli y fath sefyllfa sy'n bodoli bellach mae'r dywediad fod lladron gydag anrhydedd a gwleidyddwyr heb yn dod i'r meddwl.

Sut na all graddedigion Rhydychen a Chaergrawnt, sy'n defnyddio'r Tŷ Cyffredin i gynnal eu Cymdeithas Dadlau, fod yn ymwybodol o'r trafferthion a oedd mewn golwg?

Bellach mae adeiladu tai wedi peidio, diolch byth, a'r economi'n dioddef. Beth yw arwyddocâd hyn? Fod yr economi yn llwyr ddibynnu ar adeiladu tai.

Mae'r banciau wedi bod yn rhy farus a rŵan eisiau eu pres yn ôl i ddadwneud eu hedonistiaeth. Rywsut neu'i gilydd mae'n amharu dipyn ar fyw ar ddyled, neu gwario pres nid chi ei piau.

Ateb Gordon Brown yw taflu pres at y banciau er mwyn iddynt fenthyg pres eto. Ar ôl be sydd wedi digwydd, nid ydwyf yn credu dylai neb ymddiried mewn banc gyda phres. Wedi'r cwbwl, rhoi pres er mwyn i bobol greu mwy o ddyled a gwario mwy o bres rhywun arall. Beth yw datrysiad y fath sefyllfa? Canolbwyntio ar economi cynaliadwy yn fwy nag un sydd yn ymddangos yn llewyrchus ond sydd â ffaeliadau enfawr.

Ateb David Cameron yw ceisio atgyfodi ymddiriedaeth pobol mewn cyfalafiaeth. Cyfalafiaeth yn syml yw ceisio cael cymaint o gyfoeth i chi eich hun. Dyma be wnaeth y banciau, a rŵan beth yw sefyllfa'r cwsmeriaid? Yn ddiweddar mae protestiadau wedi bod ynghylch swyddi a chytundebau yn cael eu rhoi i gwmnïoedd a gweithwyr o dramor, er fod Gordon Brown wedi nodi dylai swyddi lleol fynd i bobol lleol. Hwn yn yw cyfalafiaeth. Mae cyflogwr yn gallu cyflawni prosiect gyda gweithlu rhatach na'r un lleol. Unai fedrai gweithwyr derbyn hyn, neu ethol rhywun arall neu parhau i brotestio.

Mae digwyddiadau fel hyn, neu'r bosibiliad o fwy gyda niferoedd uwch yn frawychus. Yr ydwyf wedi clywed sawl economydd yn cymharu heddiw gydag adeg y Dirwasgiad Fawr. Os yw hynny'n bosib, yna mae hefyd yn bosib cymharu y ffactorau a rhoddodd lwyddiant i bobol fel Hitler. Creu gelynion allan o bobol tramor, eu beio am broblemau lleol a'u herlid. Yr ydwyf hefyd wedi dysgu fod rhyfel ddim yn bell pan fo'r economi ar ei gwaetha, a'r weithred sydd fel arfer yn diweddu dirwasgiad.

Fy nghasgliad i o'r sefyllfa yw fod pres gwlad ddim mewn dosraniad digon cytbwys. Mae'r gweithwyr Banc Brenhinol Yr Alban a Brodyr Lehman, i enwi ond dau, wedi ennill cannoedd ar filoedd o bres sydd bellach yn eu cyfrifau banc. Eu pres yn y fan hynny i'r unigolion wario ar gyfradd sy'n gyfforddus i nhw a mewn gwledydd eraill. Mae eraill, mwy na thebyg cwsmeriaid banc, heb bres o gwbwl sy'n arwain at ddiffyg cynnal sefydliadau economaidd lleol, fel y cigydd neu'r garej.

Unai atgyfodi sosialaeth neu cymedroli cyfalafiaeth i'r eithaf yw'r ateb mwyaf synhwyrol ar hyn o bryd.

Saturday 4 October 2008

Coch, Coch ac Oren, Coch

Dyma'r drefn sydd i'w dderbyn yn ddyddiol ar strydoedd y DU gyda'r goleuadau traffig. Gyda gwneud cnewyllyn tref yn fan cerdded yn unig, yn ogystal â datblygiadau ar gyrion y lle mae angen am systemau unffordd, goleuadau traffig a ffensys metel. Gridlock.

Oes angen hyn i gyd?

Mae'r ffyrdd gwreiddiol wedi datblygu o angen hygyrchedd a thrafnidiaeth yn y dull hawsaf dros ganrifoedd o ddefnydd. Tydi gosod system unffordd ddim am wneud dim yn well o gwbwl, gan ei fod yn ei ddull symlaf yn y lle cyntaf. Yr unig beth a all ddigwydd yw tagfeydd, mynd mewn cylchoedd, sŵn a llygredd ychwanegol. Daw'r broblem yma o greu canolfannau sy'n 'ddwys ei bobol'. H.y. yn naturiol mae pobol yn byw ar wasgar ar hyd a lled y tir, gyda dwysedd poblogaeth cyfartaledd o dua 650 person y milltir sgwâr, llai yma'n Nghymru. Trwy gynllunio gwael mae nhw'n ceisio cael ryw 1300 o bobol i mewn archfarchnad, sydd llai na degfed milltir sgwâr, a hyn trwy lôn sengl.

Nid ceisio eu rheoli gyda systemau o wneud ffyrdd yn unffordd a gosod goleuadau traffig ar groesffyrdd newydd yw'r ateb. Y dull mwyaf cynaliadwy a ddiffwdan yw cael canolfannau siopa o fewn datblygiadau tai.

Isod mae llun o syniad tebyg yn Llundain - Canolfan Siopa Brunswick - sydd wrth ymyl Sgwâr Russell:



Mae cynllun tebyg wedi ei weithredu yn San Luis Obispo, Califfornia ble mae hwnnw a'r un yn Llundain yn cynnwys siopau, sinema, bwytai ac archfarchnad maint sylweddol, nid un bach, ym merfeddion tai a fflatiau.

Yn syml gweithredu'r cynllun o 'eco-town' mae'r llywodraeth yn ceisio ei gynnig fel syniad newydd. Nid syniad newydd mohono, ond yr egwyddor mae'r trefi gwreiddiol wedi eu seilio sydd wedi datblygu'n organig.

Gall nifer ddweud fod y llywodraeth yn ceisio cyfyngu ar lwybrau dyn, drwy greu systemau ffyrdd unffordd i geir ac un i bobol, sef y ffensys metel gwirion sy'n eich gorfodi i groesi'r ffordd mewn mannau penodol yn unig. Mae'n ddiangen, peryglus ac yn cyfyngu ar hawliau person. Dewis yr unigolyn yn unig yw ble mae fo neu hi yn croesi'r ffordd yn gyfrifol, nid i swyddog yn yr adran iechyd a diogelwch i benderfyny be sy'n saff neu beidio. Os geisiwch chi groesi'r ffordd mewn man chi'n meddwl sy'n addas, rhaid dringo dros y ffens a sefyll yng ngwter y ffordd cyn mudo ar hyd y ffordd. Anodd iawn yw neidio dros y ffens a chroesi, a hyn oll mewn eiliad bach. Nid yw'r beryg drosodd eto. Rhaid aros yn y gwter ar ochor arall y ffordd, wrth i chi ymdrechu i ddringo ffens arall. Yn aml wnewch chi weld ble mae car wedi crasio fewn i un o'r ffensys ma, a hyn misoedd yng nghynt. Araf iawn yw'r cyngor i drwsio'r difrod, os o gwbwl.

Wednesday 2 July 2008

Dal dy Ddŵr Dilwyn

Ar newyddion BBC Wales heno yr oedd sôn am hen safle gwaith alwminiwm Dolgarrog. Yn anffodus i Gymru, ac yn fwy bennaf y gweithwyr, yr oedd rhai i'r lle gau oherwydd, yn ôl sôn, amgylchiadau economaidd rhyngwladol.



Anodd yw credu'r fath reswm wrth fod deunyddiau crai mewn gofyn enfawr dros y byd, a'r lle yn cael ei bweru gan tyrbin hydro-electrig, felly nid oes problemau talu am egni trydanol. Mwy na rhebyg ryw gwmni yn edrych i wneud fwy o elw.



Yr oedd Dilwyn Roberts, arweinydd Cyngor Sir Conwy, yn dweud ei fod yn newyddion da iawn, fod cwmni o Sir Gaerhirfryn wedi prynu'r tir ac yn gobeithio ei ddatblygu fewn i dai a chyfleusterau hamdden. Yr oedd y ffordd y cafodd y sdori ei gyflwyno yn gwneud i mi feddwl fod ryw obaith o ail-gychwyn y gwaith. I fod yn deg, mi wnaeth Dilwyn Roberts ychwanegu ei fod hefyd yn newyddion drwg fod 170 o bobol dal wedi colli eu swyddi.



Yn fy marn i does dim newyddion da. Prin y gall rhywun diwaith brynu tŷ neu hyd yn oed manteisio ar gyfleusterau hamdden.



Rhywbeth arall nad ydwyf yn ei ddeall, pam yr oedd yn rhaid i'r safle fynd i gwmni o Sir Gaerhirfryn? Tydi'r Cymry methu adeiladu tai eu hunain? Mae'r wald fel uned, i.e. Y Deyrnas Unedig yn ddigon parod i ddiogelu a rhoi tuedd i gwmnioedd mwy cartrefol gyda phethau fel treth mewnforio. Pam na all system cynllunio y sir roi ffafriaeth dros fusnesau mwy lleol?

Friday 20 June 2008

Cynllun Lleol Sir Ddinbych

Yn ôl Cynllun Lleol Sir Ddinbych, mae 500 o dai i'w gael eu hadeiladu bob blwyddyn am 15 mlynedd. Wedi ymholiad bach yn Swyddfa Drethi Sir Ddinbych daeth i'r golwg fod 920 o dai yn wag yn y chwe mis diwethaf.



Os nad yw 920 o dai yn gallu cael eu llenwi, oes wir angen am 7,500 o dai ychwanegol?

Sunday 8 June 2008

Cyfrifoldeb? Dim Diolch

Tra'n siarad gyda ffrind sy'n chwaraewr brwd o polo dŵr, a fo'n mwynhau chwarae, ymarfer a'r bywyd cymdeithasol sy'n dod yn ei sgil, daeth ffaith bach distaw ond grymus i'r golwg. Un o uchafbwyntiau polo dŵr yw cystadlu yn erbyn timau eraill, a hynny ar lefel mwy cystadleol, h.y. dipyn mwy na lefel hamddenol, ond does dim yn curo cystadleuthau rhyngwladol. Yn ddiweddar mae pwll nofio wedi agor i lawr ym Mae Caerdydd fel rhan o bentref chwaraeon rhyngwladol y ddinas. Gan fod y gair "rhyngwladol" yn yr enw, buaswch yn meddwl fod y datblygiad yn un gyffrous, sy'n dod â chyfleodd i bawb.



Yn ôl y cyngor, maent wedi rhoi pwll nofio cystadleuol 50 medr. Er siom i fy ffrind, maint gwir y pwll yw 49.97 medr. Ddim yn arwyddocaol iawn y 3 centimedr o wahaniaeth? Wel ydi. Mae'r corff sy'n llywodraethu cystadleuthau polo dŵr, a champau dŵr eraill efo canllawiau llym ar gyfer gystadleuthau rhyngwladol a fod y pwll dŵr yn gorfod bod 50 medr o hyd, yn ôl canllawiau Pwyllgot Rhyngwladol yr Olympiaid.



Yn anffodus i fy ffrind, a miloedd o bobol eraill sydd ag awydd gwylio chwaraeon rhyngwladol, ni fydd y pwll nofio newydd yn cynnal cystadleuthau anrhydeddus. Mae fo, a degau o bobol eraill sy'n cymyd rhan yn y fath chwaraeon yn reit sicr, fod yr hyd o 49.97 medr yn un bwriadol gan fod cyngor Caerdydd yn esgusodi ei hun o'r cyfrifoldeb a'r costau sy'n dwad gyda chynnal cystadleuthau rhyngwladol.



Tydi Cymru ddim wir yn ddigon uchelgeisiol? Nadi?

Saturday 3 May 2008

Pedair mlynedd o gwsg

"Bodlonrwydd yw marwolaeth chwant."


Ryw gyfieithiad bras o'r dywediad Saesneg, sydd yn nodi fod y rhai sy'n cyflawni eu goliau fyr-dymor yn peri iddynt laesu eu dwylo a throi'n ddiog. Dyma beth a welwyd gyda cholled enfawr Llafur yn yr etholiadau diweddar. Nid cymaint fod hi wedi bod yn pleidlais o blaid y Ceidwadwyr, ond dial yn erbyn Llafur am gymryd eu pleidlais yn ganiataol. Rhaid nodi fod pob plaid arall wedi gwneud yn ddau gyda'r Ceidwadwyr ar y brig.



Yr un peth gyda Phlaid Cymru; maen't wedi cymryd eu pleidlais yng Ngwynedd yn ganiataol, gan fwy neu lai chwerthin ar y gystadleuaeth gan eu bod yn disgwyl monopoli ar etholwyr Gwynedd. Diddorol fydd gweld beth a ddaw o Lais Gwynedd, ond rhaid i Blaid Cymru gofyn, mae sefydlu plaid arall i sefyll yn ei herbyn?



I'r unigolion a fethodd ar Fai 1af, cofiwch:



"Mae cam yn ôl yn osodiad i ymosod."

"A setback is a set-up for a comeback."