Saturday 4 October 2008

Coch, Coch ac Oren, Coch

Dyma'r drefn sydd i'w dderbyn yn ddyddiol ar strydoedd y DU gyda'r goleuadau traffig. Gyda gwneud cnewyllyn tref yn fan cerdded yn unig, yn ogystal â datblygiadau ar gyrion y lle mae angen am systemau unffordd, goleuadau traffig a ffensys metel. Gridlock.

Oes angen hyn i gyd?

Mae'r ffyrdd gwreiddiol wedi datblygu o angen hygyrchedd a thrafnidiaeth yn y dull hawsaf dros ganrifoedd o ddefnydd. Tydi gosod system unffordd ddim am wneud dim yn well o gwbwl, gan ei fod yn ei ddull symlaf yn y lle cyntaf. Yr unig beth a all ddigwydd yw tagfeydd, mynd mewn cylchoedd, sŵn a llygredd ychwanegol. Daw'r broblem yma o greu canolfannau sy'n 'ddwys ei bobol'. H.y. yn naturiol mae pobol yn byw ar wasgar ar hyd a lled y tir, gyda dwysedd poblogaeth cyfartaledd o dua 650 person y milltir sgwâr, llai yma'n Nghymru. Trwy gynllunio gwael mae nhw'n ceisio cael ryw 1300 o bobol i mewn archfarchnad, sydd llai na degfed milltir sgwâr, a hyn trwy lôn sengl.

Nid ceisio eu rheoli gyda systemau o wneud ffyrdd yn unffordd a gosod goleuadau traffig ar groesffyrdd newydd yw'r ateb. Y dull mwyaf cynaliadwy a ddiffwdan yw cael canolfannau siopa o fewn datblygiadau tai.

Isod mae llun o syniad tebyg yn Llundain - Canolfan Siopa Brunswick - sydd wrth ymyl Sgwâr Russell:



Mae cynllun tebyg wedi ei weithredu yn San Luis Obispo, Califfornia ble mae hwnnw a'r un yn Llundain yn cynnwys siopau, sinema, bwytai ac archfarchnad maint sylweddol, nid un bach, ym merfeddion tai a fflatiau.

Yn syml gweithredu'r cynllun o 'eco-town' mae'r llywodraeth yn ceisio ei gynnig fel syniad newydd. Nid syniad newydd mohono, ond yr egwyddor mae'r trefi gwreiddiol wedi eu seilio sydd wedi datblygu'n organig.

Gall nifer ddweud fod y llywodraeth yn ceisio cyfyngu ar lwybrau dyn, drwy greu systemau ffyrdd unffordd i geir ac un i bobol, sef y ffensys metel gwirion sy'n eich gorfodi i groesi'r ffordd mewn mannau penodol yn unig. Mae'n ddiangen, peryglus ac yn cyfyngu ar hawliau person. Dewis yr unigolyn yn unig yw ble mae fo neu hi yn croesi'r ffordd yn gyfrifol, nid i swyddog yn yr adran iechyd a diogelwch i benderfyny be sy'n saff neu beidio. Os geisiwch chi groesi'r ffordd mewn man chi'n meddwl sy'n addas, rhaid dringo dros y ffens a sefyll yng ngwter y ffordd cyn mudo ar hyd y ffordd. Anodd iawn yw neidio dros y ffens a chroesi, a hyn oll mewn eiliad bach. Nid yw'r beryg drosodd eto. Rhaid aros yn y gwter ar ochor arall y ffordd, wrth i chi ymdrechu i ddringo ffens arall. Yn aml wnewch chi weld ble mae car wedi crasio fewn i un o'r ffensys ma, a hyn misoedd yng nghynt. Araf iawn yw'r cyngor i drwsio'r difrod, os o gwbwl.

Wednesday 2 July 2008

Dal dy Ddŵr Dilwyn

Ar newyddion BBC Wales heno yr oedd sôn am hen safle gwaith alwminiwm Dolgarrog. Yn anffodus i Gymru, ac yn fwy bennaf y gweithwyr, yr oedd rhai i'r lle gau oherwydd, yn ôl sôn, amgylchiadau economaidd rhyngwladol.



Anodd yw credu'r fath reswm wrth fod deunyddiau crai mewn gofyn enfawr dros y byd, a'r lle yn cael ei bweru gan tyrbin hydro-electrig, felly nid oes problemau talu am egni trydanol. Mwy na rhebyg ryw gwmni yn edrych i wneud fwy o elw.



Yr oedd Dilwyn Roberts, arweinydd Cyngor Sir Conwy, yn dweud ei fod yn newyddion da iawn, fod cwmni o Sir Gaerhirfryn wedi prynu'r tir ac yn gobeithio ei ddatblygu fewn i dai a chyfleusterau hamdden. Yr oedd y ffordd y cafodd y sdori ei gyflwyno yn gwneud i mi feddwl fod ryw obaith o ail-gychwyn y gwaith. I fod yn deg, mi wnaeth Dilwyn Roberts ychwanegu ei fod hefyd yn newyddion drwg fod 170 o bobol dal wedi colli eu swyddi.



Yn fy marn i does dim newyddion da. Prin y gall rhywun diwaith brynu tŷ neu hyd yn oed manteisio ar gyfleusterau hamdden.



Rhywbeth arall nad ydwyf yn ei ddeall, pam yr oedd yn rhaid i'r safle fynd i gwmni o Sir Gaerhirfryn? Tydi'r Cymry methu adeiladu tai eu hunain? Mae'r wald fel uned, i.e. Y Deyrnas Unedig yn ddigon parod i ddiogelu a rhoi tuedd i gwmnioedd mwy cartrefol gyda phethau fel treth mewnforio. Pam na all system cynllunio y sir roi ffafriaeth dros fusnesau mwy lleol?

Friday 20 June 2008

Cynllun Lleol Sir Ddinbych

Yn ôl Cynllun Lleol Sir Ddinbych, mae 500 o dai i'w gael eu hadeiladu bob blwyddyn am 15 mlynedd. Wedi ymholiad bach yn Swyddfa Drethi Sir Ddinbych daeth i'r golwg fod 920 o dai yn wag yn y chwe mis diwethaf.



Os nad yw 920 o dai yn gallu cael eu llenwi, oes wir angen am 7,500 o dai ychwanegol?

Sunday 8 June 2008

Cyfrifoldeb? Dim Diolch

Tra'n siarad gyda ffrind sy'n chwaraewr brwd o polo dŵr, a fo'n mwynhau chwarae, ymarfer a'r bywyd cymdeithasol sy'n dod yn ei sgil, daeth ffaith bach distaw ond grymus i'r golwg. Un o uchafbwyntiau polo dŵr yw cystadlu yn erbyn timau eraill, a hynny ar lefel mwy cystadleol, h.y. dipyn mwy na lefel hamddenol, ond does dim yn curo cystadleuthau rhyngwladol. Yn ddiweddar mae pwll nofio wedi agor i lawr ym Mae Caerdydd fel rhan o bentref chwaraeon rhyngwladol y ddinas. Gan fod y gair "rhyngwladol" yn yr enw, buaswch yn meddwl fod y datblygiad yn un gyffrous, sy'n dod â chyfleodd i bawb.



Yn ôl y cyngor, maent wedi rhoi pwll nofio cystadleuol 50 medr. Er siom i fy ffrind, maint gwir y pwll yw 49.97 medr. Ddim yn arwyddocaol iawn y 3 centimedr o wahaniaeth? Wel ydi. Mae'r corff sy'n llywodraethu cystadleuthau polo dŵr, a champau dŵr eraill efo canllawiau llym ar gyfer gystadleuthau rhyngwladol a fod y pwll dŵr yn gorfod bod 50 medr o hyd, yn ôl canllawiau Pwyllgot Rhyngwladol yr Olympiaid.



Yn anffodus i fy ffrind, a miloedd o bobol eraill sydd ag awydd gwylio chwaraeon rhyngwladol, ni fydd y pwll nofio newydd yn cynnal cystadleuthau anrhydeddus. Mae fo, a degau o bobol eraill sy'n cymyd rhan yn y fath chwaraeon yn reit sicr, fod yr hyd o 49.97 medr yn un bwriadol gan fod cyngor Caerdydd yn esgusodi ei hun o'r cyfrifoldeb a'r costau sy'n dwad gyda chynnal cystadleuthau rhyngwladol.



Tydi Cymru ddim wir yn ddigon uchelgeisiol? Nadi?

Saturday 3 May 2008

Pedair mlynedd o gwsg

"Bodlonrwydd yw marwolaeth chwant."


Ryw gyfieithiad bras o'r dywediad Saesneg, sydd yn nodi fod y rhai sy'n cyflawni eu goliau fyr-dymor yn peri iddynt laesu eu dwylo a throi'n ddiog. Dyma beth a welwyd gyda cholled enfawr Llafur yn yr etholiadau diweddar. Nid cymaint fod hi wedi bod yn pleidlais o blaid y Ceidwadwyr, ond dial yn erbyn Llafur am gymryd eu pleidlais yn ganiataol. Rhaid nodi fod pob plaid arall wedi gwneud yn ddau gyda'r Ceidwadwyr ar y brig.



Yr un peth gyda Phlaid Cymru; maen't wedi cymryd eu pleidlais yng Ngwynedd yn ganiataol, gan fwy neu lai chwerthin ar y gystadleuaeth gan eu bod yn disgwyl monopoli ar etholwyr Gwynedd. Diddorol fydd gweld beth a ddaw o Lais Gwynedd, ond rhaid i Blaid Cymru gofyn, mae sefydlu plaid arall i sefyll yn ei herbyn?



I'r unigolion a fethodd ar Fai 1af, cofiwch:



"Mae cam yn ôl yn osodiad i ymosod."

"A setback is a set-up for a comeback."

Monday 3 March 2008

TAW Annoeth

Mae hen berthynas i chi newydd adael hen adeilad yn ei ewyllys. Yr ydych chi efo pres ac amser mewn crynswth. Be ydych chi'n ei wneud?

a) datblygu/adnewyddu'r adeilad i'w chyflwr hardd gwreiddiol
b) ei ddymchwel ac adeiladu ty newydd

Yr ateb byse nifer yn ei ddewis yw adnewyddu'r adeilad i'w odidogrwydd blaenorol. Tipyn fel adnewyddu darn o ddodrefn/car. Ond na, mae hyn yn rhy ddrud.

Cynllun gwallgof y llywodraeth yw gosod TAW ar y nwyddau a'r llafur sydd ei hangen i adnewyddu hen adeilad. Nid oes angen talu TAW ar adeiladau newydd. Canlyniad hyn yw colli ein treftadaeth; colli cymeriad sydd yn creu lle, sydd yn ddangosydd o'r gyfnod a fu. Nid ryw ty mawr crand yn y wlad yn unig, ond tai teras, hen orsaf drenau - unrhyw adeilad.

Ar hyn o bryd, mae hi'n rhatach dymchwel adeilad ac adeiladu un newydd, o'r sylfaen i'r to, nag adnewyddu un hen. Beth yw'r bwriad? Diddymu'r hanes weledol? Creu ffrwd o hanes sy ddim ond yn bodoli mewn llyfr/yn ysgrifenedig?

Pryd ddaw tynged Castell Caernarfon? Swnio fel syniad gwallgof, ond yr un egwyddor sydd yn gyffredin.