Sunday 1 February 2009

Fel y'i daroganwyd...

Os ewch chi drwy rhai o gofnodion Corddi'r Dyfroedd mi wnewch chi weld sawl sylw ynghylch adeiladu tai ac isadeiledd i bobol, byw ar dyled, gwerthu cyfrannau o fusnesau mawr sy'n cynnig gwasanaethau cyhoeddus i wledydd eraill.

Nid economydd na arweinydd gwlad ydwyf, na'r mwyafrif ohonoch, ond wrth sylweddoli y fath sefyllfa sy'n bodoli bellach mae'r dywediad fod lladron gydag anrhydedd a gwleidyddwyr heb yn dod i'r meddwl.

Sut na all graddedigion Rhydychen a Chaergrawnt, sy'n defnyddio'r Tŷ Cyffredin i gynnal eu Cymdeithas Dadlau, fod yn ymwybodol o'r trafferthion a oedd mewn golwg?

Bellach mae adeiladu tai wedi peidio, diolch byth, a'r economi'n dioddef. Beth yw arwyddocâd hyn? Fod yr economi yn llwyr ddibynnu ar adeiladu tai.

Mae'r banciau wedi bod yn rhy farus a rŵan eisiau eu pres yn ôl i ddadwneud eu hedonistiaeth. Rywsut neu'i gilydd mae'n amharu dipyn ar fyw ar ddyled, neu gwario pres nid chi ei piau.

Ateb Gordon Brown yw taflu pres at y banciau er mwyn iddynt fenthyg pres eto. Ar ôl be sydd wedi digwydd, nid ydwyf yn credu dylai neb ymddiried mewn banc gyda phres. Wedi'r cwbwl, rhoi pres er mwyn i bobol greu mwy o ddyled a gwario mwy o bres rhywun arall. Beth yw datrysiad y fath sefyllfa? Canolbwyntio ar economi cynaliadwy yn fwy nag un sydd yn ymddangos yn llewyrchus ond sydd â ffaeliadau enfawr.

Ateb David Cameron yw ceisio atgyfodi ymddiriedaeth pobol mewn cyfalafiaeth. Cyfalafiaeth yn syml yw ceisio cael cymaint o gyfoeth i chi eich hun. Dyma be wnaeth y banciau, a rŵan beth yw sefyllfa'r cwsmeriaid? Yn ddiweddar mae protestiadau wedi bod ynghylch swyddi a chytundebau yn cael eu rhoi i gwmnïoedd a gweithwyr o dramor, er fod Gordon Brown wedi nodi dylai swyddi lleol fynd i bobol lleol. Hwn yn yw cyfalafiaeth. Mae cyflogwr yn gallu cyflawni prosiect gyda gweithlu rhatach na'r un lleol. Unai fedrai gweithwyr derbyn hyn, neu ethol rhywun arall neu parhau i brotestio.

Mae digwyddiadau fel hyn, neu'r bosibiliad o fwy gyda niferoedd uwch yn frawychus. Yr ydwyf wedi clywed sawl economydd yn cymharu heddiw gydag adeg y Dirwasgiad Fawr. Os yw hynny'n bosib, yna mae hefyd yn bosib cymharu y ffactorau a rhoddodd lwyddiant i bobol fel Hitler. Creu gelynion allan o bobol tramor, eu beio am broblemau lleol a'u herlid. Yr ydwyf hefyd wedi dysgu fod rhyfel ddim yn bell pan fo'r economi ar ei gwaetha, a'r weithred sydd fel arfer yn diweddu dirwasgiad.

Fy nghasgliad i o'r sefyllfa yw fod pres gwlad ddim mewn dosraniad digon cytbwys. Mae'r gweithwyr Banc Brenhinol Yr Alban a Brodyr Lehman, i enwi ond dau, wedi ennill cannoedd ar filoedd o bres sydd bellach yn eu cyfrifau banc. Eu pres yn y fan hynny i'r unigolion wario ar gyfradd sy'n gyfforddus i nhw a mewn gwledydd eraill. Mae eraill, mwy na thebyg cwsmeriaid banc, heb bres o gwbwl sy'n arwain at ddiffyg cynnal sefydliadau economaidd lleol, fel y cigydd neu'r garej.

Unai atgyfodi sosialaeth neu cymedroli cyfalafiaeth i'r eithaf yw'r ateb mwyaf synhwyrol ar hyn o bryd.