Saturday 12 May 2007

Yn gaeth i alcohol?

Yn rhan annatod o ddiwylliant y DU mae'r dafarn yn chwarae rhan fawr ym mywydau'r mwyafrif, yn enwedig myfyrwyr. Yng nghanol pob tref neu dinas mae clwstwr o fariau, tafarndai a chlybiau nos yn agored ar y penwythnosau a sawl diwrnod arall o'r wythnos. I'r rhai ohonoch sydd wedi prynu llymaid yn ddiweddar, cewch weld nad yw prisiau yn resymol o bell ffordd. Yn ystod y 10 mlynedd olaf, mae'r llywodraeth Lafur wedi cynyddu trethi ar alcohol - digon teg trethu nwyddau o bleser, ac o ystyried y problemau a'r gost yn sgil canlyniadau negyddol y cyffur.

Yr ochor arall ddrwg yw'r ffaith fod cymaint o fangreoedd gyda trwydded i werthu alcohol, mewn ardal cyfyngedig iawn. Yn Nottingham er enghraifft mae oddeutu 250 o fangreoedd trwyddedig mewn 1 milltir sgwâr - y riset perffaith am drafferthion.

A yw'r llywodraeth, a'r lefel cenedlaethol a sirol yn or-ddibynnu ar alcohol, a'r faint o arian sy'n cael ei wario? Mewn nifer o lefydd rŵan, cwbwl yw canol yw bwytai a fariau. Dim byd mwy na hynny. Wrth gwrs bod angen cynnig cyfleusterau i bodloni gofynion y cyhoedd, ond ffolineb ydyw i wasgu cymaint mewn un lle penodol. Beth am roi cyfyng ar y nifer o fangreodd trwyddedig mewn un uned ardal?

Canlyniadau drwg o gael cymaint mewn un fan yw ysbwriel, plismona, llygru, ymddygiad gwrth-gymdeithasol a threisiol ac eraill. Yw'r gost o redeg llywodraeth gyda'r fath yma o bres o ystyried yr effaith ar y cyhoedd tawel ac enciliol yn gyfiawn?

3 comments:

Rhys Llwyd said...

dwi'n gweld gor-yfed fel un o brif broblemau'r gymdeithas ar hyn o bryd, ac mae'r broblem hyd yn oed mwy actue ymysg Cymru. Dros y blynyddoedd nesaf dwi'n gobeithio y deith i fod yn bwnc trafod gwleidyddol o ddifri gan y pleidiau, un sydd wedi ei esgeuluso hyd yma.

Yn fy nhyb i y ffordd ymlaen yw trin alcohol fel sigarenau, creu'r ddelwedd fod meddwi'n rhacs yr un mor anerbyniol yn gyhoeddus a smygu.

Edrych i mewn i gynyddu treth yn sylweddol ar alcohol fel ei fod yn cael ei weld fel luxury yn hytrach na tap rhad di-ddiwedd bob penwythnos. Hefyd byddai'n gam ymlaen i wahardd drink promotions sy'n hybu gor-hyfed.

Y broblem i mi fodd bynnag yw mod i'rn Gristion, ac er mai cymhelliad cymdeithasol sydd tu ol i fy dristwch o or-yfed bydd pobl yn ei ddarllen fel fi y Cristion yn dweud twt twt

Anonymous said...

(Dwi'n mynd i'r sgwrs 'ma ychydig yn hwyr, mi wn...) Dwi'n cytuno'n llwyr a Rhys, mae rhaid i ymosod ar hyn fel problem iechyd cyhoeddus, efo llawer o'r tactegau dan ni'n defnyddio ar smygu. Hefyd, mae rhaid i helpu pobl ddallt beth ydy alcoholism, oherwydd bod y rhan fwyaf o bobl yn credu nad ydach chi'n alcoholig nes ichi syrthio i lawr yn y stryd.
(Dwi'n anffyddiwr anfoesol, felly dwi'n gallu dweud hyn i gyd...)

Huw said...

Dwi'n meddwl y dylem edrych at yr ymgyrch o sathru ar y rhai sy'n gyrru ac yfed. Mae'r weithred wedi cael ei wneud yn annerbyniol yn gymdeithasol. Buas hi hefyd yn syniad da i roi'r diwedd ar hysbysebu alcohol, fel sydd wedi digwydd gyda tobaco.

Ond nid problem moesol/crefyddol mo hwn, ond un o gyfrifoldeb dynol.

Tydw i ddim yn un sy'n hoff o gygyngu ar hawliau pobol, ond buasai'r llywodraeth yn gallu pwyso ar gwnioedd bragu a thafarndai i greu a gwerthu cwrw o gyfartaledd alcohol is. Mae'r rhanfwyaf wedi cyrrau tua 5%. Hapus ydywf fod Becks Vier (un o fy ffefrynau) yn 4%, a dwi'n meddwl fod rhai o'r cwmnioedd mawrion am geisio rhyddhau cwrwau gyda chanran is - maent wedi methu a'u gwerthu yn y dyfodol.

Hefyd be am drethu, nid yn ôl y llymaid alcoholaidd, ond canran yr alcohol? Buasai'n golygu fod 'shots' a pethau fel vodka a chwsigi yn ddrytach.