Monday 18 June 2007

Coffor Aur GIG

Faint ydych chi'n ei hennill gyda'ch swydd?

Di-waith? Myfyriwr? Llai na £20,000, £40,000? Digon lwcus i ennill mwy na £100,000?

Yn fawr syndod i bawb, does bron dim o'r doctoriaid cyffredin yn ennill llai na £100,000. Petai doctor yn ennill £100,000 y flwyddyn, gan anwybyddu trethi ac yn gweithio 37.5 awr yr wythnos, mae'n cymyd £55 yr awr. Mae hyn yn fwy mewn gwirionedd gan fod y £100,000 y flwyddyn dal yn sefyll sydd yn cynnwys gwyliau.

Yr ydywf yn cofio mynd i weld doctor mis Ionawr diwethaf. Digwyddias edrych ar y wal, a gweld faint oedd y doctor penodol yma yn ei godi am waith yn ystod gwyliau'r Nadolig. Ar ddiwrnod San Steffan (Rhagfyr 26), byddai gofyn am y doctor yma wedi golygu talu iddo £600 yr awr. Diwrnodau eraill fel Rhagfyr 20fed, £200 i £400 yr awr.

Does dim dwywaith fod gwaith y doctor cyffredin yn un pwysig dros ben mae pawb yn cymyd yn ganiataol, ond maent dim ond yn gweithio o 9 tan 5 yn ystod yr wythnos. Os ydych angen gweld doctor y tu allan i'r oriau yma, am yr adran Damwain ac Argyfwng yr ysbyty agosaf bydd hi, hyd yn oed os chi'n byw yn y cefn gwlad ac yn methu gyrru. Problem.

Yn yr hen ddyddiau byddai doctor yn ymweld a'i gleifion a phobol o fewn y gymdeithas ar hap. Dywedodd fy nhad fod ei ewythr, a oedd yn ddoctor yn ardal Gorseinon, Abertawe, wedi cael ei alw allan yn ystod y nos am bythefnos syth un adeg; yr oedd hyn ar ben ei waith yn ystod y dydd. Yr oedd pethau fel yma yn ddisgwyliedig o'r swydd a'r tâl yr oedd y person yn ei dderbyn.

Os nad yw doctoriaid yn ddigon parod i wneud fel y diswgyl, neu bod yn ddigon wyneb galed i ofyn am fwy pan maent yn cael dros deg gwaith yn fwy na rhai pobol yn y wlad yma, yna mae'n bryd ail ystyried faint o dâl maent yn ei dderbyn. Yr ydym yn derbyn fod eu swydd yn un o safon uwch, ond yn fwy ac yn fwy heddiw, mae eu cyfrifoldebau ym maes iechyd yn digsyn wrth i ffisegwyr, cemegwyr, radiolegwyr, nyrsiau, biocemegwyr gwneud mwy a mwy o'r gwaith. Nid sôn o reidrwydd am staff ysbytai sydd yn gwneud mwy na'u siar, ond yn hytrach y rhai sy'n dewis gweithio yn y gymdeithas ond peidio gwasanaethu.

No comments: