Tuesday 17 July 2007

Caernarfon Crand - Ddim i'r Cymry

Tua mis yn ôl yr oeddwn yng nghyffiniau Caernarfon, ac yn aros ym maes parcio Morrisons. Sylweddolais ar y strwythyr enfawr o fetel i lawr wrth y dŵr. Hwn yw datblygiad o fflatiau crand newydd, a drud wrth gwrs, sydd am fod yn rhan o dref Caernarfon.

Fel oedd i'w weld, rhagor o'r un hen adeiladau wedi eu hadeiladu gyda strwythyr metel, a'r waliau yn cael eu codi mewn darnau cyfan gyda craen.

Un sylw gan un o drigolion Caernarfon ar wefan y BBC yw:




co dre, caernarfon

Be sy' mynd ymlaen yn doc fictoria? arwyddion mawr yn y saesneg am werthu fflatiau moethus a phlaid cymru yn cefnogi'r holl beth, mae hi fel stori o alice in wonderland


Watkins Jones Homes sy'n gyfrifol am y datblygiad. Tan yn ddiweddar yr oedd arwydd mawr uniaith Saesneg yn nodi fod tai ar werth. Daeth y Gymraeg dim ond ar ôl i bobol cwyno.

Os ewch chi ar wefan Right Move, fe welwch nad oes unrhyw sôn am Caernarfon yn un o ardaloedd Cymraeg Cymru, a'r ffaith nad oes dim ar gael am lai na £325,000. Mae hyn o fewn gafael llawfeddyg go bosib, ond ddim i neb arall.

Be sydd hyd yn oed yn fwy dryslyd yw mai'r cyngor a roddodd y tir i ddatblygwyr am £1, er siwr fod dyledion neu costau eraill ynghlwm gyda'r cytundeb ond fod Cyngor Sir Gwynedd yn un Plaid Cymru, gyda 44 allan o 75 o'r seti yn perthyn i'r blaid. Oeddwn i'n meddwl fod agweddau Plaid Cymru yn un i edrych ar ôl y Gymraeg, nid i gymeryd camau at ddinistrio ei fro hanfodol. Petai'r Ceidwadwyr wedi gwthio'r cynllun er lles datblygiad economaidd, byddai'r rheswm yna'n ddealladwy a bosib yn fwy cyfiawn.

Ond eto, fel maw pawb yn ymwybodol ohono, tai mae pobol eu hangen, nid fflatiau. Mae Gordon Brown bellach yn ymwybodol iawn o'r hyn - gobeithio neith o weld gwendidau y CDU (Cynllun Datgblygu Unedol), fod economi a/neu chymuned yn gallu lleihau cymaint a fedrith ehangu. Hyn i'w weld yn y nifer o blant sydd bellach yn cychwyn yn yr ysgolion - niferoedd is na blynyddoedd blaenorol. Yw'r bwlch yn y niferoedd yn cael ei lenwi gan mewnfudwyr neu'r pobol sy'n anweithredol yn economaidd, a elwir yn bensiynwyr? Tydi hyn ddim yn beth rhy dda i'r CDU.

Ai er lles y bobol maent yn eu cynrychioli mae pobol mewn gwleidyddiaeth?

1 comment:

Rhys Wynne said...

Fflat 3 llofft am 675,000!

Mae'r byd di mynd yn wallgof.

Be oedd yn mynd trwy feddwl y cyngor yn caniatau hyn.