Thursday 7 June 2007

Gwlychwch eich Traed!

Yn aml wrth gerdded o amgylch bron iawn pobman neu gyrru, mae'r ffyrdd mae nifer yn talu treth, sydd oeddeutu £130, yn wael ac yn anghyson. Mae'r llywodraeth yn ystyried gosod system o dalu am faint o'r ffordd yr ydych yn ei ddefnyddio - a fydd hyn yn golygu cael gwared ar y disg treth? Ond eto, er cymaint yr ydym yn ei dalu at goffa cynnal ffyrdd, nid ydym yn cael gwerth ein pres. Wel wrth gwrs ddim, mae'r llywodraeth cyfredol mewn sefyllfa o fenthyca ar gyfer talu am bethau gwirion megis rhyfeloedd, a grantiau at bethau diwerth; hyn oll er yr ydym yn talu y lefelau uchaf o drethi erioed.

Wrth weld y ffyrdd heddiw, prin iawn sy'n cael ei wario arnynt gan pob llywodraeth leol yng Nghymru. Nid safon yr arwyneb yn unig sydd o bwys, ond yr oll sydd o dan y ffordd hefyd, gan gynnwys y system o ddraeniau i gasglu dwr. Un enghraifft yn Nghaerdydd yw, fod nifer o strydoedd ble mae'r ffin rhwng y ffordd a'r palmentydd bron yn un. Yn ogsytal a hyn, os mae llif o law trwm, mae'r draeniau yn orlifo a'r dŵr yn casglu yn y ffordd. Gan nad oes ffin bellach, mae'r dŵr yn llifio ar y palmant. Yr unig ardal sych yw pwynt top y camber, ond mae ceir yn y fan honno. Beth yw'n wneud?

Oherwydd cynhesu byd eang, fedrwn ddisgwyl mwy o dymhestloedd. Nid rhai mellt a tharannau, ond glaw trwm mewn cyfwng byr o amser. Digon i ddal y systemau cyfredol mewn sioc.

Rhaid buddsoddi yn y tanadeiledd rŵan! Y llefydd sydd yn y mwyaf o beryg yw Llanrwst a Rhuthun. Mae Caerdydd yn digwydd bod mewn helynt fawr, gyda thiroedd gorlifio systemau hydrolegol, megis afonydd, yn ymestyn yn bell i ganol y ddinas.

Bosib byddai cyfres o danciau o dan y ddaear o fudd, i gasglu dwr glaw yn ystod tymhorau'r gaeaf, a'u defnyddio i ddyfrio blodau a chaeau yn yr haf?

Beth bynnag yw'r dewisiadau, mae angen i'r cynghorau sir newid eu cynlluniau gwario. Dim byd ar sothach fel parc busnes arall, ond mwy ar yr union bethau yr ydym yn dibynnu arnynt i allu hyd yn oed cerdded neu gyrru i'r siop leol am beint o lefrith.

1 comment:

Anonymous said...

Oes gen ti syniadau ar gyfer y Welsh Blog Awards 2007?