Friday 27 July 2007

Gwerthu Enaid Lloegr a'i Chyfeillion

Rhaid i mi gyfaddef fy mod yn dipyn o genedlaetholwr Cymreig adain dde, ond yn ogysal a hynny yn ddipyn o Einglffeil. Nid ei hwyneb hyll sy'n ymddangos adeg Cwpan y Byd, nac ar flaen y papurau newydd tabloid, ond yr oll sydd wedi dod o geisio adeiladu ymerodaeth gyda gwaith caled ac agwedd trahaus, sydd wedi rhoi pensaerniaeth arbenning, pobol cynnes a brawdgarol y gogledd, cewri llenyddol a sefydliadau megis Caergrawnt a'r Amgueddfa Prydeinig.

Yr ydwyf yn credu'n gryf iawn, fod dyfodol Cymru yn gorwedd yn nwylo y Saeson. Petawn ni'n cefnogi eu buddiannau a'u hymdrechion annibynol, bydd hyn yn cael ei wrthgyferbynnu, gan fod diddordebau Lloegr, yn bendant, yn wahanol i rai Cymru.

Oherwydd undod economaidd Yr Alban, Lloegr a Cymru, mae cwmnîoedd mawrion yn bodoli ac yn gweithredu yn ddi-ffin pob dydd. Syndod mawr oedd dysgu fod Canghellor newydd y DU, Alistair Darling, yn hapus i adael gwledydd megis Tsheina gael y cyfle i brynnu busnesau megis Barclays. Beth sydd yn syndod fwy, yw'r unig wlad i ganiatau y fath yma o wahoddiad, yw'r DU.

Yn ddiweddar mae Tsheina ac India wedi profi tŵf enfawr economaidd, sydd ddim i'w weld am arafu'n fuan. Tsheina yn ariannu cwmnioedd ei hun yn y farchnad ryngwladol gyda llafur rhad, ac India yn wlad llawn tlodi ond pobol efo sgiliau. Mae Tsheina wedi bod yn graff iawn ac un cam ar y blaen i'r UDA, drwy gwneud ffrindiau gyda pob math o wledydd gan cynnig llafur, deunyddiau a nwyddau y wlad. Cam doeth iawn.

Cam sydd ddim yn doeth yw gadael i lywodraeth Tsheina brynu pobol fel Barclays, pan eu bod yn berchen ar fanciau yn barod. Bydd hyn yn golygu gall Tsheina dewis gwneud penderfyniadau gwael, oherwydd mae dim ond yn gystadleuaeth i'w hun. Petai sefyllfa tebyg yn digwydd, gall Tsheina dod i reoli'r DU drwy ddulliau anuniongyrchol, drwy reoli'r economi, ac o ganlyniad bywydau pobol.

Edrych ar ôl ein hunain sydd ei hangen, fel mae Ffrainc a'r Swistir wedi bod yn neud ers degawdau, gyda chynnal France Telecom ac arbed Swiss Air i enwi ond rhai. Mae nhw efo cytundeb da gyda'r Undeb Ewropeaidd ynglŷn â ffermio. Ar yr un pryd, mae ffermwyr y wlad yma yn mynd yn ddiwaith trwy prisiau isel am lefrith ac yn y blaen.

No comments: