Wednesday, 9 May 2007

Adeiladu Heb Fwriad

Edrychwch ar ganol neu gyffiniau unrhyw tref heddiw, a mi wnewch chi weld ail-adroddiad o'r un hen siopau ac adeiladau pre-fab. Yr union siopau sy'n lladd canolfannau trefi yn ogystal a chreu thagfeydd traffig. Am ryw reswm gwirion, mae nifer o adrannau cynllunio cynghorau sir yn gefnogol o'r fath yma o ddatblygiad. Mae gan pob cyngor sir Cynllun Datblygu Unedol (UDP i'r rhan fwyaf ar lafar - Unitary Development Plan) gyda'r disgwyl o ddatblygu mannau yn y sir ar gyfer tai, siopau ac ardaloedd cyhoeddus. Yn ogystal a hyn, mae'r niferoedd o blant sy'n mynychu ysgolion yn lleihau yn flynyddol. Bwriad sylfaenol y cynghorau yw i gynyddu economi yr ardal, ond ar ba gost?

Yn syml yr ydym yn gweld adeiladau diysbryd, yn cael eu hadeiladu yn y gobaith fod busnes neu teulu am symud i fewn. I lawr ym Mae Caerdydd mae dwsinau o fflatiau moethus yn wag ers blynyddoedd bellach, a'r cyngor yn parhau i roi ganiatâd i fwy cael eu hadeiladu. Yr un peth yn wir i fyny yn Sir Conwy ble mae Parc Wyddoniaeth ger Abergele gyda dim ond un busnes yn preswylio, a'r busnes yna wedi symud o Fae Colwyn.

Rhaid i'r awdurdodau lleol ddeall, os yw rhywun am gychwyn busnes, mi wnawn nhw hynny ar liwt eu hunain. Tydi taflu pres a chyfleusterau at bobol yn achosi dim - edrychwch ar Elwa.

Yn yr oes a fu - dim ond 100 mlynedd yn ôl yn wyneb datblygiadau diwydiant, mae gan ardal Caerdydd a'r cymoedd pensaern├»aeth unigryw, ardal Abertawe, Aberystwyth a gorllewin Cymru, a'r gogledd, yn eu tai teras ac adeiladau eraill. Syth i ffwrdd, mae'n bosib adnabod ardal trwy luniau o'r adeiladau.

Yn syml mae'r awdurdodau lleol yn lladd canolfannau trefi ac yn lladd enaid, cymeriad a'r hyn sydd yn unigryw mewn llefydd, ac mae hyn effeithio ar y pobol lleol. Cwbwl sydd rhaid ei wneud yw meddwl am ddatblygiad Manceinion yn y 50/60au o'r concrid i gyd, a gofyn i unigolion sut ddelwedd ydych chi'n cael o'r lle? Lle llwm, llwyd, di-liw, digalon a gwlyb.

Rhaid rhoi diwedd ar y datblygiadau diri dibwrpas yma sy'n gost enfawr yn amgylcheddol ar faestrefi a gwregysau glas (green belt) ac ar ysbryd lle a'i thrigolion.

4 comments:

Rhys Wynne said...

Clywch, clywch.

Hyd y gwela i, yr unig bobl sy'n symud mewn i'r adeiladau yma ym mhar busnes Llanelwy ydi sefydliadau cyhoeddus - gan gynnwys yr Heddlu!

Anonymous said...

Testun diddorol!

Beth sy'n dal diwylliant Cymru yn ol? Yn fy mharn i, mae't broblem yn gysylltiedig a'r sefyllfa economiadd arswydus yn y wlad - i ni'n or-ddibynnol ar y sector gyhoeddus (dros 30% mewn ardaloedd Cymreig). Diwydiant mwyaf llewyrchus cefn gwlad Cymru dros yr hanner canrif diwetha' yw addysgu ein bobl ifanc i fod yn drethdalwyr da mewn swyddi da, tu hwnt i glawdd Offa.

Mae angen datblygu ein economi, ond yn anffodus nid drwy adeiladu blychau ar gyrrion ein trefi. Beth sydd angen i'r llywodraeth i wneud yw creu polisiah sy'n debyg o ddenu busnesi, drwy lleuhau gwario cyhoeddus ac yna lleuhau trethi. Mae hefyd yn hen bryd i ni dderbyn fod creu cyfoeth yr un mor bwysig a creu gwybodaeth.

Mae gan awdurdodau lleol ormod o bwer; mae ein senedd yn diodde o'r gwrthwyneb ...

neil wyn said...

Dwi'n cofio stad o unedau diwyllianol crand yn cael eu hadeiladu gan y Cyngor y fan'ma (Cilgwri) wrth ymyl y traffordd rhai hugain mlynedd yn ol. Nid gafodd un ohonynt ei defnyddio erioed, ac rhai deg mlynedd yn ddiweddarach, mi gawson nhw eu chwalu er mwyn gwneud lle ar gyfer.... ie, ti wedi dyfalu yn barod.. warws B&Q, MFI a gweddil y 'drwgdrybwyr arferol'

Huw Waters said...

Ym mharc busnes Llanelwy, mae nifer fawr o gyrff sector cyhoeddus yn trio. Yn ogystal a hyn, mae cwmnioedd preifat, ond mae nhw hefyd yn derbyn cymorth ariannol gan y sector gyhoeddus.

Mae Thales a Pilkington Glass, yn gwmnioedd mawrion annibynol rhyngwladol, ond mae'r ddau gyda cytundebau mawrion gyda'r Weinidogaeth Amddiffyn.