Monday 21 May 2007

Byw ar Ddyled

Fel sy'n dod yn fwy ac yn fwy amlwg y dyddiau yma, yw fod pobol allan bron iawn pob dydd yn gwario'u pres. Nid fod dim o'i le gyda hynny, ond mae nifer fawr yn gwario pres nad oes ganddynt.

Gyda tai yn codi i brisiau tu allan i afaelion nifer fawr o bobol, a'r llywodraeth yn gwthio agwedd cymdeithasol o wario a gwario, er mwyn atal arafiad yn yr economi, mae nifer yn troi at fenthyg pres. Gan fod pobol yn barod i neidio'r clwyd o fenthyg pres, mae 'cerdiau ffyddlondeb' yn ffynnu gyda graddau llog uchel. Cai nifer o bobol eu ffeindio'n sownd mewn twll o ddyled, gyda dim ond digon o bres i dalu llog ar y benthyciadau.

Be ddigwyddodd i gynilo eich pres? Cynilo swm mawr o bres at freuddwyd, ac o ganlyniad yr holl waith yn ei wneud, yn ei werthfawrogi mwy. Pan mae'n rhaid i rywun weithio'n galed at gael rhywbeth mae'n beth i drysori. Mae'r dewis o fenthyg pres yn hamdwyo'r gallu yma, ac yn rhoi'r peth ar blat. Os glywch chi storiau o adeg y rhyfel neu adegau eraill mewn hanes ble'r oedd y rhanfwyaf o bobol mewn dyled, yr oedd cymdeithas gwell o rannu a chyfeillgarwch yn bodoli.

Amser i gwtogi ar pwy yn union sydd ar hawl i fenthyg pres a'r llog i godi?

2 comments:

Anonymous said...

Mae'n boenus o wir. Dwi'm yn siwr beth sy'n digwydd - sut ydy pobl'n methu gweld beth sy'n siwr o ddilyn? - ond mae'r cwmniau'n gwneud popeth mor syml. Dwi'm yn ennill gormod o bres, ond mae fy credit limit yn cael ei godi bron bob chwe mis; taswn i'n gwario'r swm 'na, baswn i'n hollol broke. Dwi'n ymwybodol iawn bod ar fy nheithiau o gwmpas y We, mae hi'n rhy syml o lawer i wario arian heb sylweddoli cymaint ydy hi, ac ella bod gan bobl erail yr un problem yn y byd go iawn, dwn i'm. Ond mae'n drist dros ben i weld pobl golli popeth dros teledu plasma flat-screen.

Huw said...

Dwi'n meddwl un o'r problemau yw fod popeth y dyddiau yma yn cael eu brynnu gyda cerdyd o ryw fath, a tydi pobol ddim yn gweld y rhan ffisegol o'r peth.

Tydw i ddim yn deall be sydd am ddigwydd yn y pendraw. Be fydd yn digwydd pan fydd gan pawb dyled o ryw £50,000 a neb yn gallu ei dalu yn ôl yn ddigon cyflym. Bydd yn siwr o arwain ar ryw fath o gwymp a chwyddiant yn ei sgil.