Monday 14 May 2007

Gwyliau 365

Ar hyn o bryd mae'n edrych fel petai Cymru yn ceisio troi yn un lleoliad wyliau i bobol. Fflatiau a thai moethus sydd yn anymarferol ac allan o afaelion pobol lleol; mwy o marinas - dwi ddim yn adnabod neb efo llong o gwbwl; mwy o ganolfannau crefftau mewn ryw hen adfail.

Trobwynt mewn trefi glan y môr oedd penderfyniad cynllunio i newid hen adeilad westy ar bromenâd Bae Colwyn yn floc o fflatiau. Penderfynodd hyn bod y lle wedi cyrraedd ei hanterth a bydd y lle yn datblygu i gael ystyr gwahanol. Bellach mae mwy o fflatiau sydd wedi eu preswylio gyda dosbarth cymdeithasol newydd. Ryw fath o dan-dosbarth o bobol tlawd gyda problemau cymdeithasol. Problemau sy'n sgil datblygiadau dinas mewnol trefi mawrion Lloegr.

Fel arfer mae'r cyngor sir rywsut yn gwrthod gwneud dim, neu yn medru gwneud dim. 12 milltir i lawr yr arfordir yn Y Rhyl, mae'r hen ffair wedi gorffen a bellach yn gwneud ei ffordd i Towyn, ond ar y safle yma mae ASDA yn ogystal a chaffi, siopau a fflatiau moethus am cael eu datblygu. Dwnim os na dall yw cyngor Sir Ddinbych, ond edrychwch ar y ffaeliadau mae Pentre'r Plant a Traeth y Ffrith wedi bod, yn ogystal â'r problemau sydd wedi rhoi enw i'r Rhyl yn ddiweddar gyda fflatiau yn denu pobol o'r tu allan. Fel mae'r cyngor wedi nodi, fflatiau moethus bydd rhain, gyda neb yn gwadu na i bobol o'r tu allan ydynt.

Nid Ibiza, Benidorm na St. Tropez arall yw Cymru felly mae angen i ni adeiladu tanadeiledd ar gyfer y trefi a phentrefi lleol, yn ogsytal ag i'r bobol. Un enghraifft amlwg nad yw hyn yn bod, yw'r diffyg ffordd uniongyrchol o'r gogledd i'r de yng Nghymru.

1 comment:

Lee__ZX said...

Hi Huw, the completely wrong place to post but I've uploaded that bootleg you asked me for... it's on my main blog. Cheers, Lee (Spoons)